I’w ryddhau ar unwaith 1af Medi 2021
Greenwood Projects Cyfyngedig yn cyhoeddi agor swyddfa yng Nghaerdydd, De Cymru
Pleser o’r mwyaf yw i Greenwood Projects Cyfyngedig gyhoeddi iddo agor swyddfa newydd yng Nghaerdydd, De Cymru.
Wedi’i sefydlu ym 1986, mae Greenwood Projects Cyfyngedig yn darparu gwasanaethau Mesur Meintiau, Rheoli Prosiectau, Rheoli Iechyd a Diogelwch (Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli/CDM)), yn ogystal ag ystod o wasanaethau ategol ers dros 35 mlynedd.
Mae cynnydd wedi bod yn y galw am wasanaethau Greenwood Projects yn Ne Cymru a rhanbarthau De Orllewin Lloegr ac yn ddiweddar llofnodwyd cytundeb i drosglwyddo gwaith gan syrfewyr Mildred Howells & Co yn sgil ymddeoliad i Greenwood Projects Cyfyngedig. Mae Mildred Howells wedi’i leoli yn Ne Cymru a Bryste ers sefydlu’r cwmni ym 1949. Mae’r bartneriaeth hon, ynghyd â llwyth gwaith sy’n prysur gynyddu yng Nghymru wedi arwain at fuddsoddiad Greenwood Projects yn ei swyddfa newydd.
Dywedodd David Crump, Rheolwr-Gyfarwyddwr Greenwood Projects, “Mae agor ein swyddfa yng Nghaerdydd yn rhan allweddol o’n strategaeth i ddarparu Gwasanaethau Ymgynghori ym maes Adeiladu drwy rwydwaith o swyddfeydd lleol gyda thîm medrus dros ben o staff proffesiynol sy’n adnabod yr ardal yn dda. Mae’r cam hwn yn helpu i barhau i ymestyn ein busnes drwy atgyfnerthu ein presenoldeb yn Ne Cymru, a’r gobaith yw y byddwn yn gallu ymestyn hyn eto yn y misoedd nesaf”.
Nodiadau i’r Wasg
Cefndir Greenwood Projects Cyfyngedig
Cwmni ymgynghori ym maes adeiladu yw Greenwood Projects Cyf. sy’n darparu gwasanaethau Mesur Meintiau, Rheoli Prosiectau, Rheoli Iechyd a Diogelwch (Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli/CDM)), yn ogystal â sgiliau Rheoli Masnachol craidd. Yn Lichfield, Swydd Stafford mae’r pencadlys, ac mae swyddfeydd pellach ym Mryste, Llundain, Caerwrangon, Swydd Rydychen ac erbyn hyn yng Nghaerdydd, De Cymru.
Mae gan Greenwood Projects dros 35 mlynedd o brofiad helaeth yn rhychwantu ystod o sectorau o ddatblygiadau defnydd cymysg masnachol mawr, i brosiectau Addysg a Chymunedol, ac mae ganddo hefyd dîm arbenigol sy’n canolbwyntio ar Dreftadaeth ac Adfer, gydag arbenigedd ar gyllid grant, rheoli a datblygu adeiladu rhestredig a thechnegau cadwraeth ac adfer. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Royal Armouries a Historic England yw rhai o’r cleientiaid.
Mae anghenion cleientiaid yn parhau i fod wrth galon ffocws y cwmni. Mae ei faint yn ei alluogi i fod yn ymatebol ac yn hyblyg mewn marchnad sy’n prysur newid. Mae gan dîm Greenwood Projects enw da am ‘fynd yr ail filltir’ ar gyfer ei gleientiaid, tra’n mynd i’r afael â phob prosiect yn rhagweithiol a chyda brwdfrydedd ac angerdd.
Mae cenhadaeth y cwmni’n canolbwyntio ar ddull gweithredu rhanbarthol er mwyn darparu cyngor ymgynghori lleol, tra ar yr un pryd yn lleihau ei ôl troed carbon, gan sicrhau cydbwysedd gwell i’r tîm rhwng bywyd a gwaith a galluogi cymunedau lleol i ffynnu.
Caiff Greenwood Projects Cyfyngedig ei reoleiddio gan RICS, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cysylltwch â:
Lee Smirthwaite
Greenwood Projects Cyfyngedig
Ffôn: 01543 414777
Ebost: lee.smirthwaite@greenwoodprojects.com