Mae Greenwood Projects ar ben ei ddigon i fod yn rhan o waith adfer a chadwraeth Boston Lodge diolch i gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Y safle yw calon beirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru, a’r gweithdy rheilffordd hynaf yn y byd mewn gweithrediad parhaus. Cynorthwywyd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru gan Greenwood Projects gyda’u cais datblygu i’r Gronfa a byddant yn darparu gwasanaethau mesur meintiau drwy gydol y gwaith o gyflwyno’r prosiect hwn, sydd wedi denu £3.1m o gyllid. Bydd yn arwain at gyfleoedd twristiaeth, gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli i 250,000 o bobl yn y profiad treftadaeth unigryw yma ar safle Treftadaeth y Byd UNESCO.